Skip to main content
Please wait...
Nathaniel Cars
Nathaniel Cars

Wedi’i sefydlu yn 1980, mae Nathaniel Cars wedi bod yn helpu gyrwyr yn Ne Cymru a thu hwnt i brynu, gwerthu a chynnal a chadw eu cerbydau ers dros ddeugain mlynedd. Gall ein hystafelloedd arddangos ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Cwmbrân ac Abertawe ddarparu ar gyfer ystod eang o anghenion moduro – o werthu ceir newydd ac ail law i wasanaethu, atgyweirio, MOTs a theiars.

Yn ogystal â stocio dros 350 o gerbydau ail law, rydym yn brif ddeliwr MG sydd wedi ennill sawl gwobr ac wedi tyfu i fod y mwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn brif ddeliwr ar gyfer faniau Fiat Professional.

Felly, p'un a ydych chi'n chwilio am MG newydd neu gerbyd ail-law o ansawdd, gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod mewn dwylo diogel. Mae pob cerbyd gan Nathaniel Cars yn dod â MOTs oes am ddim, a byddwn hyd yn oed yn gosod car neu fan cwrteisi i chi am ddim hefyd!