
Techniquest
Nod Techniquest yw ymgysylltu pobl â gwyddoniaeth a'u hysgogi i ddysgu mwy; maent hefyd yn mynd i'r afael â meysydd sy'n ymwneud â gwyddoniaeth fel mathemateg, peirianneg a thechnoleg. Mae Techniquest yn cynnal arddangosfeydd, sioeau a rhaglenni gyda'r bwriad o wneud gwyddoniaeth yn hygyrch i bobl ledled Cymru, ac i wella ansawdd trafodaethau cyhoeddus am wyddoniaeth a thechnoleg.