Trafnidiaeth yw’r trydydd sector allyriadau carbon mwyaf yng Nghymru. Mae’n bleser gan Gweithredu Hinsawdd Cymru/Llywodraeth Cymru noddi ESBLYGIAD Cymru 2024, digwyddiad i’n hysbrydoli ni i gyd i ddarganfod mwy am gerbydau trydan ar y daith i deithio gwyrddach.
Erbyn 2035, ni fyddwn yn gallu prynu ceir a faniau petrol neu ddiesel newydd, felly mae’n ddefnyddiol dechrau dysgu mwy am gerbydau trydan cyn y newid hwn i drydan ac ystyried prynu EV pan ddaw’n amser adnewyddu eich car presennol.
Mae newid i gerbydau trydan yn rhan o'r ateb i dorri allyriadau o deithio. Er y gall costau prynu cerbydau trydan ymlaen llaw fod yn uwch na cherbyd petrol neu ddiesel, mae hyn fel arfer yn cael ei wrthbwyso gan gostau rhedeg is. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn systemau gwefru a seilwaith cerbydau trydan i sicrhau bod pawb yn teimlo’n hyderus wrth newid i gerbydau trydan. Bellach mae gan Gymru dros 2,590 o bwyntiau gwefru sy’n hygyrch i’r cyhoedd – un am bob wyth cerbyd trydan batri.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ffyrdd eraill o leihau llygredd niweidiol pan fyddwn yn teithio drwy ei gwneud yn haws, yn fwy fforddiadwy a chyfleus i ni i gyd ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a mynd o gwmpas mewn ffordd fwy egnïol. I ddysgu mwy ewch i Gweithredu Hinsawdd Cymru.
Gweithredu ar Hinsawdd Cymru